Michael Sheen to narrate Wales: Land of the Wild, with an original score by Sir Karl Jenkins.
Bydd stori ddiffiniol hanes naturiol Cymru yn cael ei dangos ar y teledu eleni
Michael Sheen fydd yn adrodd stori Wales: Land of the Wild, gyda’r sgôr wreiddiol gan Syr Karl Jenkins.Caiff fersiwn Cymraeg - Cymru Wyllt - ei ddarlledu ar S4C.
Bydd BBC One Wales ac S4C yn dangos Cymru fel nas gwelwyd hi erioed o’r blaen gyda chyfres hanes naturiol sy’n adrodd stori ein bywyd gwyllt anhygoel dros gyfnod o flwyddyn eithriadol.
Mae Cymru yn glytwaith o gynefinoedd, a bydd Wales: Land of the Wild a Cymru Wyllt, rhaglenni sy’n torri tir newydd, yn tynnu sylw at rai o’u straeon anhygoel - a chyfrinachol yn aml.
Y seren Hollywood Michael Sheen a gafodd ei fagu ym Mhort Talbot fydd yn adrodd stori Wales: Land of the Wild ar gyfer BBC One Wales, tra bod y gerddoriaeth gan y cyfansoddwr byd-enwog Syr Karl Jenkins a'i fab Jody, ac wedi’i pherfformio gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.
Y prifardd Twm Morys, sy’n adrodd y stori yn Cymru Wyllt ar gyfer S4C.
Mae Wales: Land of the Wild / Cymru Wyllt wedi’i gynhyrchu gan Plimsoll Productions, y tîm bywyd gwyllt clodwiw sydd hefyd wedi gweithio ar Blue Planet, Planet Earth II a Springwatch ar ran y BBC. Maent hefyd wedi cyfuno angerdd ac arbenigedd selogion bywyd gwyllt ledled Cymru, yn cynnwys Iolo Williams, ymgynghorydd y gyfres.
Gyda'i gilydd maen nhw wedi defnyddio eu gwybodaeth ddihafal i ddatgelu cyfrinachau cynefinoedd cyfoethog Cymru, yn ogystal â defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i ffilmio bywyd gwyllt er mwyn rhoi mynediad digyffelyb at gast enfawr o greaduriaid o bob lliw a llun.
Dywedodd Nick Andrews, Pennaeth Comisiynu BBC Cymru: “Mae bywyd gwyllt Cymru ymhlith y mwyaf cyfoethog a phrydferth yn y byd, ac rydw i wrth fy modd bod BBC Cymru yn gallu adrodd y straeon rhyfeddol hyn yn Wales: Land of the Wild. Mae’n dwyn ynghyd rai o ddoniau gorau Cymru ar y sgrin ac oddi arni, er mwyn adrodd stori ddiffiniol hanes naturiol y wlad. Bydd y gyfres hon, sy’n torri tir newydd, yn datgelu Cymru nad yw’r rhan fwyaf ohonom erioed wedi’i gweld o’r blaen”.
Dywedodd Michael Sheen: “Mae Land of the Wild yn agoriad llygad. Mae’n dangos Cymru fel y wlad wyllt, ryfeddol a chreulon o hardd sydd ohoni - ac mae’r rhaglen deledu arwyddocaol hon o Gymru yn ei datgelu i ni yn ei gogoniant naturiol mewn modd nas gwelwyd o’r blaen”.
Dywedodd Syr Karl Jenkins: “Roeddwn i wrth fy modd pan ofynnwyd i mi gyfansoddi’r thema ar gyfer Land of the Wild, ac roedd hi’n braf cydweithio â fy mab Jody Jenkins sydd wedi cyfansoddi cerddoriaeth hyfryd ar gyfer gweddill y rhaglen. Braint oedd cael creu cerddoriaeth wedi’i hysbrydoli gan y delweddau arbennig hyn o Gymru, fy mamwlad”.
Dywedodd Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C: “Rydym wrth ein bodd cael arddangos harddwch byd natur a thirlun Cymru yn y gyfres anhygoel hon. Mae Cymru Wyllt yn torri tir newydd fel prosiect hanes naturiol ac rydym yn gobeithio y bydd ein gwylwyr yn mwynhau gweld prydferthwch unigryw Cymru yn cael ei ddatgelu ar S4C.”
Dywedodd Twm Morys: “Roedd lleisio’r ffilm hudolus hon yn Gymraeg yn un o’r jobsus mwya’ difyr ges i erioed. Does neb wedi gweld dim tebyg iddi ar y teledu erioed: portread o’n gwlad ni a Chymru wyllt yn brif gymeriad!”
Bydd Wales: Land of the Wild a Cymru Wyllt yn cael eu darlledu yn y Gwanwyn.



No comments:
Post a Comment